Stori Siwgr a Sbeis

Mae Cymru'n enwog am ei chwedlau ond dyma stori dylwyth teg a ddaeth yn wir wrth i ddwy ferch o'r enw Rhian wireddu eu breuddwydion o sefydlu busnes llwyddiannus yn eu bro. Ac yn Llanrwst, Dyffryn Conwy, y gwelsant eu cwmni, Siwgr a Sbeis, yn tyfu i fod yn un o'r prif gwmniau pobi cacennau cartref a melysfwyd yng Nghymru.
Mae pedair mlynedd ar bymtheg ers i Rhian Williams a Rhian Owen sefydlu Siwgr a Sbeis. Yn ffrindiau ysgol, aeth y ddwy i'r coleg i ddysgu pobi ac addurno cacennau cyn dechrau ar eu menter i werthu eu cacennau yn lleol.
Bellach, mae Siwgr a Sbeis yn un o gyflogwyr mwya'r ardal. Mae gweithio i Siwgr a Sbeis yn brofiad cynhyrfus a heriol gan eu bod yn defnyddio dulliau traddodiadaol o goginio gyda ryseitiau sydd wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau. Maent hefyd yn creu ryseitiau newydd a mentrus gan ddefnyddio'r cynhwysion newydd Cymreig gorau. Mae arbrofi gyda ryseitiau hen a newydd yn her barhaus a'r boddhad o lwyddo gymaint â hynny'n fwy melys.

