10 Awgrym i Daro Deuddeg
(Mae tipyn o Siwgr a thipyn o Sbeis
Yn gwneud eich cacennau yn neis, neis, neis!)
1. Pan yn paratoi cynhwysion ar gyfer pobi, gwnewch yn siwr eu bod yr un tymheredd â'r gegin.
2. Does dim byd tebyg i binsiad o halen am roi blas.
3. Wrth wneud merigues, gwnewch yn siwr nad oes dim mymryn o saim ar eich offer.
4. Bydd ychwanegu ychydig o ddŵr poeth ar y funud olaf at gymysgedd cacen yn gwneud gwyrthiau.
5. Mae siwgr brown muscovado mewn cacen ffrwythau yn cyfoethogi'r blas.
6. Lapiwch eich cacen ffrwythau mewn papur (gwrthsaim) yn gyntaf ac yna mewn ffoil.
7. I gael mwy o sudd allan o lemwn rhowch o yn y popty am ychydig o funudau.
8. Mae ychydig o groen a sudd oren yn gwella blas hufen menyn wrth lenwi ac addurno cacen.
9. Gratiwch nytmeg ffres i wella blas hefyd.
10. Os nad yw'r awgrymiadau yma'n gweithio i chi, yna, da chi ewch allan a phrynu cacennau Siwgr a Sbeis!

