Dathliadau/Achlysuron Arbennig

Hwn oedd ein man cychwyn, felly, rydym yn sicr na chewch chi mo'ch siomi.

Mae'n cacennau priodas/dathliadau arbennig ni yn foethus ac o'r safon gorau un. Rydym yn defnyddio menyn Cymreig, rým, brandi, sieri a phâst almwn ac yn addurno'r cyfan gydag eisin caled neu feddal. Mae pob cacen yn cael ei chynllunio'n ofalus a'i haddurno gyda llaw yn y dull traddodiadol yn ôl eich gofynion chi'ch hun.