Pwdinau a Chacennau
Dewisiwch Eich Categori:
» Pwdinau
» Cacennau/Quiches
» Heb Eu Llenwi
![]() |
Choux Siocled Mae'r crwst choux hyfryd wedi'i lenwi â crème patisserie a thrwch o siocled melfedaidd drosto ac yn siwr o dynnu dŵr o'ch dannedd. |
![]() |
Choux Coffi a Chnau Ffengig Mae'r crwst choux hyfryd wedi'i lenwi â crème patisserie a thrwch o gyffug coffi melfedaidd a chnau Ffrengig drosto ac yn siwr o dynnu dŵr o'ch dannedd. |
![]() |
Cacen Cyffug Siocled Sbwng siocled tywyll yn toddi'n eich ceg gyda haenau lawer o ganache siocled ac wedi'i haddurno gyda haen drwchus arall o siocled dros y cyfan. Mi fuasai Jonsi'n gwerthu'i Nain i gael un o'r rhain! |
![]() |
Rholen Almwn a Mafon Sbwng ysgafn blas almwn wedi'i lenwi gyda hufen a mafon llawn sudd a'r cyfan wedi'i addurno gyda chnau wedi'u rhostio. Y ffordd berffaith i orffen unrhyw bryd. |
![]() |
Cacen Foron Dyma hi, ffefryn ein cwsmeriaid. Digonedd o foron iachus a sbeis ynghyd ag eisin hufennog yn drwch drosti. Mae'r gacen hon yn sicr o dynnu dŵr o'ch dannedd. |
![]() |
Crwnsh Lemwn Rysait draddodiadol a blas cryf y lemwn ffres yn dawnsio ar eich tafod ac yn dod ag atgofion o haul tanbaid Môr y Canoldir. |
![]() |
Profiteroles Crwst choux bychain wedi eu llenwi â hufen ffres a'u gorchuddio â ganache siocled. Perffaith ar achlysur arbennig ac yn ffefryn ar fwydleni led-led y wlad. |
![]() |
Fflans Ffrwythau Bychain Crwst ysgafn, brau wedi ei lenwi gyda ffrwythau melys yr haf. Bychan ond Blasus. |
![]() |
Choux Mocha Tameidiau o grwst choux wedi eu llenwi gyda hufen a choffi a'u gorchuddio â thrwch o ganache siocled. Beth am drio'r rhain? Byddwch yn siwr o gael eich plesio. |
![]() |
Tafell Fanila Hen ffefryn arall. Crème patisserie moethus rhwng dwy haen o grwst pwff gydag eisin melys ar ei ben. Gwych gyda thê bach ganol pnawn. Neu damaid ar y slei...Sh..Sh..Sh. |
Gall y cynnyrch amrywio











