Y Newyddion Diweddaraf

Cwmni teisennau’n cael gwobr wrth ddathlu penblwydd yn 21 oed
14/09/2010

Rhian Owen, Rhian Williams a staff Siwgr a Sbeis yn derbyn eu gwobr Buddsoddi Mewn Pobl gan Aelod Cynulliad Aberconwy, Gareth Jones.

Mae teisennau Siwgr a Sbeis yn dathlu penblwydd yn 21 oed eleni – ac mae gan y cwmni reswm arall dros ddathlu ar ôl ennill gwobr yn ddiweddar.

Mae’r cwmni a gafodd ei sefydlu gan Rhian Owen a Rhian Williams yn Llanrwst yn 1989 wedi ennill gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl fel cydnabyddiaeth am ei waith fel cyflogwr.

I nodi’r achlysur, cyflwynwyd plac i’r ddwy Rhian gan Gareth Jones, Aelod Cynulliad Aberconwy, yn eu ffatri yn Llanrwst.

“Ro’n i’n falch o’r cyfle i’w llongyfarch ar eu llwyddiant,” meddai Gareth Jones.

“Mae busnesau bach fel Siwgr a Sbeis yn gwneud cyfraniad aruthrol i’r economi wledig yn nyffryn Conwy a’r cyffiniau.

“Mae’r cwmni a ddechreuodd y ddwy Rhian 21 mlynedd yn ôl bellach yn gyflogwr lleol o bwys.

“Mae’n glod i’w gwaith caled iddyn nhw gyrraedd safonau uchel y wobr Buddsoddwyr mewn Pobl – ac mae eu llwyddiant yn rhywbeth y dylen nhw a’u staff ymfalchïo ynddo.”

Roedd y ddwy Rhian yn ffrindiau ysgol ac yn gyd-fyfyrwyr mewn coleg arlwyo yn Wrecsam cyn iddyn nhw sefydlu Siwgr a Sbeis.

Mae’r cwmni bellach yn cyflogi dros 20 o weithwyr ym Mharc Tŷ Gwyn yn Llanrwst, ac wedi ennill llu o wobrau am eu cynnyrch dros y blynyddoedd. Mae bellach yn un o’r prif gynhyrchwyr teisennau a melysion cartref ar gyfer siopau a chyfanwerthwyr ledled Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

Meddai Rhian Owen: “Mi wnaethon ni ddatblygu Siwgr a Sbeis fel busnes sy’n cyrraedd y safonau uchaf bosibl, o ran ein cynnyrch a hefyd y staff yr ydan ni’n eu cyflogi. Mae’r wobr Buddsoddwyr Mewn Pobl yn deyrnged i ymroddiad ein staff yn ogystal ag i’r safon uchel o hyfforddiant yr ydan ni’n ei ddarparu. Ein hymdrechion fel tîm ydi’r gyfrinach.”

Meddai ei phartner Rhian Williams: “Rydan ni’n ddiolchgar i Gareth Jones am gyflwyno’r wobr i ni. Mae’r wobr yn eisin ar y gacen i bawb ohonon ni wrth inni ddathlu 21 mlynedd mewn busnes eleni. Mae pob busnes yn dibynnu ar y staff y mae’n ei gyflogi, a dw i’n gobeithio y bydd y wobr yma’n dangos ein hymrwymiad i weld Siwgr a Sbeis yn mynd o nerth i nerth.”

 

Carreg Filltir Siwgr a Sbeis – Cyrraedd y 21ain!
Gan Sion Barry, Western Mail 03/03/2010

Mae cwmni pobi adnabyddus a sefydlwyd gan ddwy ffrind ysgol, bellach, yn dathlu 21 o flynyddoedd ers ei sefydlu.

Dros y flwyddyn nesaf bydd Rhian Williams a Rhian Owen, sy’n cyflogi 20 o bobl yn eu becws yn Llanrwst, Conwy, yn cynyrchu cyfres o gacennau a melysfwyd newydd i nodi’r garreg filltir hon.

Dywedodd Ms Owen, “Un mlynedd ar hugain yn ôl, wnaethon ni erioed ddychmygu y bydden ni yn y sefyllfa hon erbyn heddiw. Ein bwriad oedd cynyrchu cacennau a melysfwyd o’r ansawdd gorau, wedi ei wneud yn y dulliau traddodiadol ond gyda rhai newidiadau.

“Mae traddodiad a rheoli ansawdd yn holl-bwysig i ni, ac mi fyddwn yn meddwl yn aml i ble mae’r 21ain o flynyddoedd wedi mynd. Mae gynnon ni 7 o blant rhyngom, ac mi rydyn ni wedi llwyddo i redeg busnes a theulu ar y cyd.

“Does dim modd y byddem wedi llwyddo cystal heb gefnogaeth lwyr ein teuluoedd a’n gweithwyr. Roedd cael ein teuluoedd yn gefn i ni o’r cychwyn cynta yn hanfodol i ni sefydlu a chynyddu’r busnes.”

Tyfodd y busnes yn sylweddol wedi iddynt symud i fecws newydd 5,000 troedfedd sgwâr yn 2006. Mae ganddynt gwsmeriaid ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, Sir Gaer a chyn belled â Chaerdydd.

Mae cynnyrch Siwgr a Sbeis, yn eu pacedi chwaethus o liwiau sepia, yn cael eu gwerthu mewn dros 100 o leoedd dros Gymru, gan gynnwys siopau lleol, siopau fferm, yn ogystal â gwestai, caffis a bwytai. Y bwriad yw cynyddu’r gwerthiant o fewn Cymru ac ar y gororau.

Dywedodd Ms Williams, “Ni fedr unrhyw fusnes sefyll yn ei unfan, felly, rydym yn parhau i ddatblygu cynnyrch newydd. Defnyddiwn gynhwysion lleol pan fo’n bosibl. Credwn yn gryf yn ein cynnyrch, yn y busnes, ac mewn cael y cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd teulu.”

 

Becws yn Ennill Gwobr Arall Wrth i Feirniaid Ddangos Eu Tâst
Gan David R. Jones, Daily Post 26/07/2007

Mae becws o Ogledd Cymru yn dathlu ar ôl ennill gwobr fawr arall sef Gwobr Aur y ‘Great Taste' gan y Guild of Fine Food.

Mae hon yn wobr arbennig i Siwgr a Sbeis o Lanrwst gan mai dyma'r tro cyntaf erioed iddynt gynnig un o'i bwydydd i'r gystadleuaeth hon.  Bydd raid i'r cwmni aros tan y Ffair Bwydydd Da ac Arbenigol yn Llundain ym mis Medi i weld os yw eu Fflapjac Cyrens Duon yn dod i'r brig fel pencampwr y sioe.

Sefydlwyd y cwmni gan ddwy ffrind ysgol, Rhian Owen a Rhian Williams ddeunaw mlynedd yn ôl, ac mae'r ddwy wedi gwirioni gyda'r Wobr Aur. Maent yn awr am anfon eu cacennau, pwdinau a'u quiches i gystadleuthau eraill gyda'r gobaith o ddenu sylw'r beirniaid. Mae'r cwmni yn cyflogi ugain o bobl mewn becws modern ac yn cyflenwi siopau lleol, caffis, bwytai, gwestai a chwmniau eraill ar hyd a lled Gogledd a Chanolbarth Cymru.

“Mae'n wych ennill y Wobr Aur ar y cynnig cyntaf” meddai Rhian Williams.   “Rydym yn canolbwyntio ar bobi traddodiadol, yn cymysgu'r cynhwysion gan ddefnyddio'n ryseitiau ein hunain, rhai yn newydd, eraill yn draddodiadol.” Mae Siwgr a Sbeis yn gobeithio datblygu rhagor o fwydydd arbenigol Cymreig. Mae eisoes yn gwneud Quiche Eryri gan ddefnyddio Caws Eryri, a phwdin newydd sy'n amrywiad cyffrous ar y gacen gaws gyffredin sef Toffoc Crenshiog gyda gwirod vodca Cymreig a gwaelod briwsionllyd brau.

Becws Siwgr a Sbeis, Llanrwst, Cymru, y D.U.
Erthygl o foodprocessing-technology.com, Gorffennaf 2008

Mae Becws Siwgr a Sbeis o Lanrwst, Cymru, wedi symud unwaith eto, i safle mwy a hynny am y trydydd tro.   Cychwynodd y busnes mewn siop fechan yn Stryd Watling yn Llanrwst yn 1989 cyn tyfu a symud i leoliad newydd yn Groesffordd yn 1991.   Erbyn 2006 roedd yn amlwg bod angen lle mwy eto a phenderfynwyd codi becws newydd pwrpasol.

Bu'r fenter yn llwyddiant ysgubol ers i'r ddwy ffrind ysgol, Rhian Williams a Rhian Owen, fynd ati i sefydlu'r busnes dros ddeunaw mlynedd yn ôl.   Mae'r cwmni, bellach, wedi ennill enw da iddo'i hun dros Ogledd Cymru i gyd ac y cynyrchu amrywiaeth eang o gacennau (sbwng Victoria, cacennau siocled, coffi, moron a.y.y.b.) mins peis, fflapjacs, cacennau ffrwythau, a phwdinau Nadolig yn ogystal â quiches a cynnhyrch bwffe.

Mae'r cwmni hefyd yn gwneud cacennau priodas ac yn brysur yn datblygu amrywiaeth eang o gacennau Nadolig a phwdinau moethus. Mae'n bwriadu cynyrchu rhagor o fwydydd arbenigol Cymreig.

Mae Siwgr a Sbeis eisoes yn gwneud Quiche Eryri yn llawn o Gaws Eryri ac hefyd Toffoc Crenshiog (gwirod fodca blas taffi). Mae'r rysait yn defnyddio'r gwirod fodca Cymreig a gwaelod briwsionllyd brau i greu fersiwn gyffrous a modern o'r gacen gaws.

Maent yn cyflenwi gwestai, bwytai a siopau coffi yn ogystal â'r farchnad leol trwy werthu mewn siopau bychain ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru a'u henw da yn cynyddu'n ddyddiol. Mewn cyfweliad dywedodd Rhian Williams, “Mae'r un gofal yn mynd i baratoi bwydydd Siwgr a Sbeis ag sy'n mynd i baratoi bwydydd i'n teuluoedd.   Pobi a choginio yw'n cariad cyntaf, ac rydym yn hyfforddi'n staff i gyd yn y dulliau traddodiadol.   Dyna gyfrinach ein llwyddiant.”

Datblygwyd y ddelwedd, y logo a'r pacedu gan Francis Bolson Associates Cyf. o Aberystwyth. Yn Gorffennaf 2007 ennillodd y cwmni wobr Great Taste gan y Guild of Fine Foods am eu Fflapjac Cyrens Duon.

Mae'r becws newydd 4800metr troedfedd oedd eisoes yn cyflogi 15 o bobl yn yr ardal bellach yn cyflogi pump yn mwy a'r gobaith yw i fedru creu mwy eto yn y dyfodol.

Agorwyd y becws newydd yn Awst 2006 i wireddu breuddwyd y sylfaenwyr o gael cynllunio becws modern a hwylus fyddai'n hwyluso eu gwaith a chyda digon o le i fedru ehangu yn y dyfodol. Derbyniwyd cymorth ariannol gan y Cynulliad yng Nghaerdydd.

O ganlyniad i'w llwyddiant ysgubol yn sefydlu busnes llewyrchus yng nghefn gwlad Cymru, enillodd y dwy ffrind wobr Live Wire yn 1989 ac maent bellach yn fentoriaid i Brosiect Dynamo Llywodraeth Cynulliad Cymru.