Cynnyrch Manwerthu
Dewisiwch Eich Categori:
» Cacennau
» O'r Oergell
» Sawrus
![]() |
Sbwng Siocled Foethus Dyma'r gacen i dynnu dŵr o ddannedd pob siocaholig! Sbwng siocled ysgafn fel pluen yn llawn i'r ymylon o ganache siocled. Nefoedd ar y ddaear. |
![]() |
Cacen Goffi a Chnau Ffrengig Moethus Dyma sbwng ysgafn fel pluen gyda blas hyfryd coffi'n dawnsio ar eich tafod. Hufen melys blas coffi yn llenwad ac yn haenen drwchus ar ei phen o dan domen o gnau Ffrengig. |
![]() |
Sbwng Lemon Foethus Sbwng ysgafn euraidd yn toddi yn eich ceg gyda ffrwydriad o flas lemwn. Gogoneddus! |
![]() |
Sbwng Foethus Gyda Mafon a Hufen Melys Ein sbwng ysgafn draddodiadol gyda haen drwchus o jam mafon a hufen melys. Beth well gyda phaned i'ch atgoffa o bnawiau o haf hirfelyn? |
![]() |
Sbwng Foethus Gyda Mafon Ysgafn, euraidd a nefolaidd – sbwng blaen gyda jam mefus a'r cynhwysion gorau. Dymu un o'n rysaitiau hynaf wedi ei phobi yn union fel y byddai Nain wedi'i wneud ers talwm. |
![]() |
Sbwng Siocled Foethus (Hanner) Dyma'r gacen i dynnu dŵr o ddannedd pob siocaholig! Sbwng siocled ysgafn fel pluen yn llawn i'r ymylon o ganache siocled. Nefoedd ar y ddaear. |
![]() |
Cacen Goffi a Chnau Ffrengig (Hanner) Dyma sbwng ysgafn fel pluen gyda blas hyfryd coffi'n dawnsio ar eich tafod. Hufen melys blas coffi yn llenwad ac yn haenen drwchus ar ei phen o dan domen o gnau Ffrengig. |
![]() |
Sbwng Lemon Foethus (Hanner) Sbwng ysgafn euraidd yn toddi yn eich ceg gyda ffrwydriad o flas lemwn. Gogoneddus! |
![]() |
Sbwng Foethus Gyda Mafon a Hufen Melys (Hanner) Ein sbwng ysgafn draddodiadol gyda haen drwchus o jam mafon a hufen melys. Beth well gyda phaned i'ch atgoffa o bnawiau o haf hirfelyn? |
![]() |
Sbwng Foethus Gyda Mafon (Hanner) Ysgafn, euraidd a nefolaidd – sbwng blaen gyda jam mefus a'r cynhwysion gorau. Dymu un o'n rysaitiau hynaf wedi ei phobi yn union fel y byddai Nain wedi'i wneud ers talwm. |
![]() |
Torth Madeira Sbwng ysgafn, blaen, draddodiadol wedi ei phobi mewn tun bara sy'n eich atgoffa o ddiwrnod pobi yn ffermdai Cymru ers talwm. Perffaith gyda phaned ar unrhyw adeg o'r dydd. |
![]() |
Cacen Almwn a Cheirios Fel siwgr a sbeis, mae almwn a cheirios yn gyfuniad perffaith. Mae lliwiau llachar y ceirios yn y sbwng ysgafn euraidd yn wledd i'r llygad. Mwynhewch! |
![]() |
Torth Sinsir (Dewis y Mis) Allai cacen sinsir Nain ddim fod wedi rhagori ar hon. Bydd y gacen ysgafn hon yn toddi yn eich geg ac yn sicr o ddod ag atgofion plentyndod yn ôl i chi. Mae eisin, siocled a sinsir ffres yn goron ar cyfan. |
![]() |
Tafelli Caramel Mae blas cartrefol y menyn Cymreig ar y crwst brau gyda thrwch o garamel meddal o'n becws ni'n hunain o dan henen drwchus o siocled hyfryd. Mae'n beryg y bydd y demtasiwn yn ormod i chi! |
![]() |
Cacen Foron Dyma ffefryn ein cwsmeriaid. Digonedd o foron iachus a sbeis ynghyd ag eisin hufennog yn drwch dros y cyfan. Mae'r gacen hon yn sicr o dynnu dŵr o'ch dannedd. |
![]() |
Sgwaraiu Cyffug Siocled Sbwng siocled tywyll yn toddi'n eich ceg gyda haenau lawer o ganache siocled ac wedi'u haddurno gyda haen drwchus arall o siocled dros y cyfan. Mi fuasai Jonsi'n gwerthu'i Nain am y rhain! |
![]() |
Cacennau Eccles Nid y crwst ysgafn, brau yw'r unig gyfrinach i lwyddiant ein cacennau Eccles. Maent y llawn i'r ymylon o gyrens aeddfed llawn sudd a blas y menyn Cymreig yn treiddio trwy'r cyfan. |
![]() |
Fflapjacs (Plaen) Y rysait wreiddiol i'n fflapjacs ar gyfer y bobl sy'n mwynhau y pethau syml mewn bywyd. Dyma ffefryn gyda'r teulu i gyd o'r ieuengaf i'r hynaf. Mae ein dull traddodiadol o'u crasu yn sicrhau mai dyma'r fflapjacs gorau yng Nghymru gyfan. |
![]() |
Fflapjacs Cyrens DuonProfodd ein dyfeisgarwch o roi cyrens duon mawr llawn sudd yn y fflapjacs traddodiadol i fod yn athrylithgar. Y cyfuniad yma o'r traddodiadol a'r newydd enillodd i ni y Wobr Aur. Rhaid i chi eu profi! |
![]() |
Florentines Ers i ni ennill Seren Aur am ein Florentines mae eu henwogrwydd yn lledu dros y wlad! Mae'r rysait arbennig hon o gnau, syltanas a cheirios gyda thrwch o siocled dros y cyfan yn dod â blas o'r Eidal i chi – ond mewn ffordd hollol Gymreig. |
![]() |
Viennese Hanner cacen, hanner bisged, - hanner ffordd i'r nefoedd! Dwy fisged hir, ysgafn, frau gyda haen o hufen melys rhyngddynt a sbloet o siocled bob pen. Bendigedig! |
![]() |
Scon Pa ‘dê bach Cymreig' fyddai'n gyflawn heb sgon ffrwythau draddodiadol? Taenwch fenyn Cymreig yn drwchus arnynt a dyna chi! Coeliwch ni, fydd UN byth yn ddigon! |
![]() |
Nyth Meringue Wedi eu gwneud o rysait draddodiadol a'r cynhwysion lleol gorau, cewch eu llenwi â beth bynnag fydd at eich ffansi. Beth well na hufen ffres a mefus? M...M...M... |
![]() |
Casys Pavlova Yn fwy na'n nythod meringue, dyma ffordd hawdd i roi gwên ar wyneb y teulu cyfan. Wedi eu gwneud o rysait draddodiadol a'r cynhwysion lleol gorau, cewch eu llenwi â beth bynnag fydd at eu ffansi. Beth well na hufen ffres a mefus? Sdim byd haws! Sdim byd gwell! |
![]() |
Pei Crymbl Afal Rysait Nain! Gwledd o afalau Bramley gyda thrwch o grymbl crenshiog drosti mewn crwst brau. Atgofion o'r gorffennol! |
Gall y cynnyrch amrywio


























