Croeso i Fyd Siwgr a Sbeis

Mae bwydydd Siwgr a Sbeis yn gyfuniad o'r traddodiadol a'r cyfoes, gyda blasau newydd, cynhwysion Cymreig ac addasiadau cyffrous o ryseitiau traddodiadol. Siwgr a Sbeis yw'r arweinydd yn y maes o gynhyrchu cacennau cartref a melysfwyd, boed ar gyfer busnesau neu i'r cartref, ar hyd a lled Cymru thu hwnt.

Os mai cacen sbwng yw eich dewis neu grymbl ffrwythau, pavlova neu quiche, teisen Nadolig neu briodas... mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd... ar gyfer parti teulu neu dderbyniad corfforaethol, beth bynnag fo'ch anghenion, mae'r ateb gan Siwgr a Sbeis. Byddwch yn siwr o ddod yn ôl am fwy.

Cyfrinach ein Llwyddiant

Mae cynnyrch Siwgr a Sbeis, fel ein pacedu, yn drawiadol. Rydym bob amser yn defnyddio'r cynhwysion gorau posibl i sicrhau na chewch eich siomi. Os ydych yn chwilio am fwyd gwirioneddol flasus fydd yn tynnu dŵr o'ch dannedd, a hwnnw wedi ei goginio gyda gofal yn y dull traddodiadol, yna Siwgr a Sbeis yw'r cwmni i chi. Mae'r rhestr hir o'r gwestai a'r bwytai gorau a siopau lleol sy'n gwsmeriaid cyson i ni yn tystio y cewch wir flas Cymru gan Siwgr a Sbeis.

 

Becws Newydd Sbon

Cafodd becws newydd 5000 troedfedd sgwâr ei agor yn ddiweddar yn Llanrwst. Mae'r becws wedi ei gynllunio'n arbennig i wireddu breuddwyd y ddwy sefydlodd y cwmni o gael pobi gwahanol rysaitiau trwy dderfnyddio dulliau traddodiadol mewn awyrgylch modern a phwrpasol.

Mae'r becws newydd wedi golygu y bydd digon o le ar gyfer ehangu'r busnes yn y dyfodol gyda rhagor o swyddi i weithwyr lleol.